Undeb Myfyrwyr Prifysgol De Cymru

News Article

All the latest news!

Sefydliad Teulu- Datganiad UM

Mae’r Sefydliad Teulu a’r Gyfadran o Wyddorau Bywyd ac Addysg (FLSE) wedi cytuno ar gau eu cyrsiau. Bydd y canlyniad yn arwain i’r cwrs peidio parhau yn PDC a fydd y Sefydliad Teulu yn cael ei ailsefydlu fel sefydliad allanol, annibynnol.

cymraegeducationfamily institutefeatureduniversitywelsh

Mae’r Sefydliad Teulu a’r Gyfadran o Wyddorau Bywyd ac Addysg (FLSE) wedi cytuno ar gau eu cyrsiau. Bydd y canlyniad yn arwain i’r cwrs peidio parhau yn PDC a fydd y Sefydliad Teulu yn cael ei ailsefydlu fel sefydliad allanol, annibynnol. Mae’r Undeb Myfyrwyr wedi bod yn rhan o’r proses i wneud pob ymdrech i sicrhau fod eu myfyrwyr yn fodlon gyda’r holl broses o gau cyrsiau.   

Ni fydd unrhyw darfu ar gyrsiau presennol yn y flwyddyn academaidd nesaf. Ar ddiwedd y derbyniad presennol, fydd y cwrs yn cael ei dadfyddino. Fydd hyn yn sicrhau rhediad esmwyth o Brifysgol De Cymru.

 

Os ydych yn fyfyriwr ag effeithiwyd gan y cau, gall yr Undeb Myfyrwyr cynnig cymorth a chyngor, cysylltwch â:

Mishan Wickremasinghe – Llywydd – supres@southwales.ac.uk

Lois Jones – Swyddog Addysg – su.education@southwales.ac.uk

Yn ychwanegol, mae PDC wedi darparu Cwestiynau Cyffredin (FAQs) a gallwch ddarllen isod. 

 

  1. Pryd mae’n mynd i gae?

Bydd y cyrsiau ar gau ar gyfer myfyrwyr newydd o Fedi 2019. Bydd y Sefydliad Teulu yn PDC yn cau yn swyddogol ar 30ain o Fedi 2020, ar ba bwynt dyle myfyrwyr ni wedi gorffen eu hastudiaethau. Mae cynlluniau cadarn yn ei lle i gefnogi unrhyw fyfyrwyr a chwsmer a all angen cymorth parhaus y tu hwnt i’r pwynt yma.

 

  1.  Beth olygai gan “yn dod yn sefydliad Allanol”?

Mae tîm Sefydliad y Teulu yn gweithio tuag at sefydlu sefydliad, annibynnol o PDC, i barhau gyda gwaith Sefydliad y Teulu. Oherwydd y cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â sefydlu sefydliad newydd mae’n debygol y bydd cyfnod trosiannol pan fydd y Sefydliad Teulu newydd yn dechrau darparu portffolio llai o hyfforddiant proffesiynol.

 

  1. A fydd yr un darlithwyr yn dysgu hyd at y diwedd?

Bydd, nid oes unrhyw fwriad i gyflwyno staff gwahanol er bydd y tîm yn llai i adlewyrchu’r ffaith mai dim ond blwyddyn o bob cwrs fydd gennym i ddysgu yn 2019/20. 

 

4.  A fydd yn yr un campws neu/ac adeilad Sefydliad y Teulu?

Bydd Sefydliad y Teulu yn aros yn eu heiddo presennol yn ystod 2019/20. Byddant yn cadw meddiant unigol y swyddfa a’r gofodau clinig. 

 

Mishan Wickremasinghe 

Llywydd UM