Diolch am eich amynedd wrth inni gweithio ar gyfieithu ein wefan.

Absenoldeb a Phresanoldeb

Absenoldeb a Phresanoldeb

Absenoldeb

Mae presenoldeb yn bwysig iawn. Serch hynny, os oes angen i chi colli rhai o’r gweithgareddau sydd wedi’u hamserlennu, am resymau anorfod, dyma beth sydd angen i chi wneud:

Am absenoldebau byr (llai na 10 diwrnod gwaith), e-bostiwch eich arweinydd cwrs. Am Absenoldebau o 10 diwrnod neu fwy, mae’n rhaid ichi ofyn am ganiatâd.

Mewn rhai achosion gall myfyrwyr ofyn am atal eu hastudiaethau am flwyddyn.

Presanoldeb

Ar gyfer llawer o fyfyrwyr, nid yw phresenoldeb yn cael ei fonitro mor fanwl ag y byddai yn ysgol uwchradd. Nid yw hynny yn golygu fod presenoldeb yn ddewisol - gall hi fod yn hanfodol i'ch llwyddiant academaidd a phersonol.

Mae gwybodaeth ar y wefan hon yn ffurfio rhan o'n hymrwymiad yn ein Siarter y Myfyrwyr.
Beth sydd ynddo i mi?

Mae’r brifysgol wedi gwneud ymchwil yn cymharu perfformiad ymhlith myfyrwyr o lefelau presenoldeb gwahanol. Gwnaethom ni darganfod fod myfyrwyr efo presenoldeb da yn cael y manteision canlynol:

  • Gwell siawns o ddatblygu
  • Graddau uwch
  • Mwy o wybodaeth i gyfarwyddo asesiadau
  • Cyfleoedd i ddatblygu sgiliau personol trosglwyddadwy
  • Ymgyfarwyddo efo barn eraill sydd yn helpu ffurfio eich dadleuon/gwybodaeth.
  • Yr Haf cyfan i ymlacio: dim ailsefyll!
Beth ydych chi’n colli wrth colli gwersi

Mae ochr arall y geiniog yn dangos fod presenoldeb gwael yn gallu cael effaith negyddol ar gyraeddiadau myfyrwyr:

  • Risg uwch o fethu
  • Graddau gwaeth
  • Gwybodaeth gyfyngedig am ddeunyddiau’r cwrs: ni all Blackboard ail-gymhwyso’r mewnbwn hanfodol gan diwtoriaid yn y dosbarth
  • Tebygolrwydd uwch o ailsefyll gwaith cwrs a/neu arholiadau yn yr Haf.
  • Lleihau o allu o allu cwblhau'r cwrs o fewn tair blynedd - ac felly risg uwch o fwy o ddyled ac effeithiau ariannol.
Monitro presenoldeb myfyrwyr rhyngwladol â fisa astudio

Os ydych chi yn astudio ar fisa astudio rhyngwladol, bydd gofyn i chi adrodd yn rheolaidd i’r Brifysgol er mwyn i’r brifysgol allu cadarnhau eich bod yn cymryd rhan weithredol yn eich astudiaethau. Bydd staff ar eich campws a’ch cwrs yn eich cynghori ynghylch gofynion penodol ar gyfer adrodd.