Diolch am eich amynedd wrth inni gweithio ar gyfieithu ein wefan.

Cwynion Prifysgol

Cwynion Prifysgol

  • Mae gan Brifysgol De Cymru weithdrefn cwyno swyddogol i helpu myfyrwyr i leisio pryderon a datrys problemau.
  • Datrysiad cynnar yw’r cam cyntaf- codwch bryderon ar lafar neu’n ysgrifenedig gyda’r person cyfrifol.
  • Os oes angen, ymchwiliad ffurfiol yw’r cam nesaf.
  • Mae cyngor a chefnogaeth ar gael ar bob cam.
Gweithdrefn cwyno

Os ydych yn anhapus ag elfen o ddarpariaethau’r Brifysgol ac yn dymuno cwyno, dylech chi ddilyn Gweithdrefn Cwyno'r Brifysgol sydd ar agor i bob myfyrwyr Prifysgol De Cymru.

Pan dderbynnir cwyn, mae’r Brifysgol yn ceisio ei datrys mor gyflym a theg â phosibl, p’un a yw am wasanaeth a ddarparwyd gan y brifysgol, triniaeth gan aelod o staff, myfyrwyr neu ymwelydd, neu unrhyw fater arall.

Esbonnir y Drefn Cwyno ar wefan Swyddfa Ysgrifennydd y Brifysgol yma.

Yn fyr:

  • • Datrysiad cynnar - ceisio datrys y broblem yn anffurfiol efo’r person/ pobl dan sylw.
  • • Ymchwiliad Ffurfiol- os yw datrysiad cynnar yn methu yna cychwyn ymchwiliad ffurfiol trwy lenwi Ffurflen Cwyn Myfyrwyr a’i hanfon i Uned Gwaith Achos Myfyrwyr.
Cyngor a Chefnogaeth

Gall myfyrwyr ofyn am gyngor ac arweiniad ar sut i gyflwyno apêl neu gwyn trwy nifer o lwybrau, gan gynnwys yr Undeb Myfyrwyr, Ardal Cynghori, a Gwasanaethau Myfyrwyr. Mae cyngor arbenigol ar y rheoliadau a’r gweithdrefnau ar gael gan staff yn yr Uned Gwaith Achos Myfyrwyr. Mae cefnogaeth fugeiliol ar gael o’r Undeb Myfyrwyr, Gwasanaethau Myfyrwyr a’r Gaplaniaeth. Darperir cymorth i fyfyrwyr ag anableddau penodol o ran mynediad i reoliadau a gweithdrefnau drwy’r Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia o fewn Gwasanaethau Myfyrwyr a Gwasanaethau Llyfrgell.