Diolch am eich amynedd wrth inni gweithio ar gyfieithu ein wefan.

Gwahaniaethau diwylliannol

Gwahaniaethau diwylliannol

Yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol, byddwch yn dod ar draws myfyrwyr ( a darlithwyr) o amrywiaeth eang o gefndiroedd a gwledydd gwahanol. Yn yr adran yma, rydym yn denu sylw i rai o’r gwahaniaethau y gallwch sylwi ar y campws.

Gall ddod i’r brifysgol ym Mhrydain fod yn brofiad newydd a ddryslyd ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, gall myfyrwyr Prydeinig hefyd wynebu syndod diwylliannol. Yn yr ysgol, efallai wnaethoch chi ddod ar draws pobl o ethnigrwydd a chrefyddau gwahanol, ond efallai mai prin oedd cysylltiad â dinasyddion rhyngwladol. Mae’r adran hon o UniLife yma i helpu efo’ch ymwybyddiaeth o natur amlddiwylliannol bywyd prifysgol.

Ieithoedd

Yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol, byddwch yn clywed amrywiaeth eang o ieithoedd yn cael ei siarad ar gampws. Wrth gwrs bydd yna Gymraeg a Saesneg. Bydd nifer o ieithoedd Ewropeaidd. A, diolch i boblogaeth fawr o fyfyrwyr o India, Tsieina, Nigeria, Pacistan a rhanbarthau arall y byd, weithiau byddwch chi yn clywed sgyrsiau mewn ieithoedd sy’n swnio’n fwy anarferol i’ch clustiau.

Un o’r prif bethau sydd angen i chi sylweddoli yw yn arfer nad yw hyn ganlyniad o anniddigrwydd neu anghwrteisi. Nid yw myfyrwyr yn siarad iaith dramor i wahardd eraill - maen nhw’n siarad yr iaith maen nhw’n teimlo’n fwyaf cyfforddus yn siarad. Weithiau, gall hefyd helpu lleihau hiraeth. Os ydych ymhlith grwp o fyfyrwyr rhyngwladol, ac yn teimlo eich bod wedi’ch eithrio o’r sgwrs oherwydd mae’r iaith wedi newid o Saesneg, soniwch amdani, ac yn y rhan fwyaf o achosion bydyn nhw yn dychwelyd i Saesneg i gynnwys chi.

Bwyd a moesau

Os ydych yn rhannu llety efo myfyrwyr rhyngwladol, efallai byddwch yn dod ar draws bwydydd ac arferion gwahanol. Gall coginio Asian neu Affricanaidd arogli yn wahanol i’r bwyd rydych chi’n gyfarwydd â, er enghraifft.

Yn ddelfrydol, dyle hwn fod yn hwylus. Gallwch chi gyfnewid ryseitiau a darganfod cynhwysion newydd. Serch hynny, weithiau mae yna broblemau. Os yw eich cyd-letywyr yn mynd ar eich nerfau, dylech chi godi'r mater yn gwrtais i wneud nhw yn ymwybodol o eich anghysur - yr union ffordd ddylech chi gyda chydletywr Prydeinig ac unrhyw broblemau sydd gennych chi ego nhw. Fel arall, na fyddant yn ymwybodol o unrhyw broblem. Efallai gall y caws yna cael ei rhoi mewn cynhwysydd aerglos, ac efallai gallid coginio'r cyri hwnna efo gwell awyriad. Wrth gwrs mae hyn yn gweithio'r ddwy ffordd, os yw eich coginio yn defnyddio'r ffwrn am gwpl o oriau po wythnos, efallai byddwch chi yn cael eich gofyn i addasu bach, neu, gall cydletywr llysieuwr ofyn i chi fod yn fwy ystyriol wrth baratoi cig.

Yn olaf, gall yna fod moesau bwrdd gwahanol. O fewn rhai diwylliannol, mae bwyta (neu drin arian) efo’ch llaw chwith yn cael ei ystyried yn anghwrtais iawn, ond ym Mhrydain nad yw pobl yn sylwi arni. Mae rhai diwylliannau yn gwgu ar y syniad o siarad wrth y bwrdd bwyd, ond mae rhai arall yn ei weld fel adeg cymdeithasu. Mae rhai diwilliannau yn defnyddio cyllell a fforc, eraill yn defnyddio chopsticks, llwyau, ac mae rhai yn ffafrio bwydydd bys. Byddwch yn barod am y syniad fod pobl yn wneud pethau mewn ffurf wahanol, a pheidiwch yn cymryd yn ganiataol fod moesau rhywun yn wael oherwydd maen nhw yn wahanol i’r hyn sydd yn gyfarwydd i chi.

Crefydd a Gwleidyddiaeth

Gall pobl bod yn sensitif am eu credoau a’u barnau, difater o’u cenedligrwydd neu gefndir neu dreftadaeth. Gyda hwnna mewn golwg, nid yw hi’n syndod y gall amgylchedd amrywiol amlddiwylliannol campws prifysgol fod yn gartref i amrywiaeth eang o safbwyntiau a chrefyddau, a gall yna fod gwrthwynebiad ideolegol rhwng rhai ohonynt.

Disgwyliwch i ddod o hyd a phobl rydych chi’n anghytuno â yn y brifysgol - pobl Brydeinig, pobl ryngwladol, o bob hil a ffydd. Yr un mor bywisg, disgwyliwch bobl a fydd yn cytuno ego chdi, o bob cenedl a ffydd. Peidiwch â chymryd yn ganiataol fod ystrydebau wastad yn wir, a bod barnau pobl yn deillio o’i diwylliant, ffydd neu genedligrwydd.

Y cyngor gorau yw peidio ddadlau os ydych yn anghytuno efo rhywun. Ar bob cyfrif cael trafodaeth gwrtais a gwybodus gyda phobl rydych yn adnabod ac yn parchu. Mae cyfnewid diwylliannol ac amrywiaeth yn ymwneud a ddeall a chyfathrebu gwahanol safbwyntiau. One effallai nid yw troi sgwrs gymdeithasol efo rhywun chi newydd gwrdd â thuag at sgwrs am faterion mwyaf dadleuol yn ein cymdeithas yw’r ffordd gorau i wneud hyn. Defnyddiwch eich synnwyr cyffredin - dewch I nabod person yn cyntaf, trafodwch dadleuon yn ddiwerddarach.

Amlddiwylliannaeth

Mae astudio mewn gwlad tramor yn benderfyniad anodd. Gall hi fod yn ddrud iawn, ac mae’r pellter yn golygu mae’r cyswllt efo teulu a ffrindiau adre yn gyfyngedig yn ystod y cyfnod hwn. Nid yw llawer o fyfyrwyr rhyngwladol yn gallu teithio adre yn ystod y gwyliau. NId yw’r penderfyniad a chymerir yn ysgafn, ac mewn sawl achos mae’n dangos ymroddiad cryf i’r delfryd o eangu gorwelion. Mae rhan fwyaf o fyfyrwyr rhyngwladol yn dychwelyd adre o fewn flwyddyn neu lai o gwblhau eu cyrsiau, felly dim ond amser byr sydd ganddyn nhw i fwynhau amgylchedd cyfeillgar a chroesawgar mae’r DU yn cynnig.

Mae poblogaeth fawr o fyfyrwyr rhyngwladol yn golygu fod y brifysgol yn rhan o’r awyrgylch hwnnw, ac rydym yn falch o hynny. Fel canolfan addysgedig, mae’r cyfnewid rhyngddiwylliannol sy’n digwydd ar gampws yn rhan werthfawr o brofiad myfyrwyr i fyfyrwyr rhyngwladol a hefyd ar gyfer myfyrwyr cartref, a hoffwn ni annog pob myfyrwyr i gymryd mantais o’r cyfle yma.