Diolch am eich amynedd wrth inni gweithio ar gyfieithu ein wefan.

Arholiadau

Arholiadau

Mae’n naturiol i pryderu yn ystod cyfnod arholiadau, ond paid a phoeni mae yna help ar gael!

“Exams bring out the best in some people, and the worst in other…whatever the case, remind yourself that you can only do your best – and your best is all that you can do.” - Mind UK

Allgofnodwch o Facebook Er bydd llawer ohonoch chi yn defnyddio gliniaduron, tabledi a ffonau i helpu chi adolygu, bydd Facebook yn y cefndir yn tynnu eich sylw. Allgofnodwch a pheidiwch â mewn cofnodi nes iddo’ch chi orffen adolygu am y dydd.

Dod o hyd i amgylchedd adolygu sydd yn gweithio i chi. Nid yw tymor adolygu yn meddwl fod rhaid i chi symud i mewn i’r llyfrgell. Feindiwch amgylchedd cyfforddus sydd yn gweithio i chi, a symud o gwmpas yn ystod y dydd.

Cymerwch saib. Cyn gynted ag y byddwch yn sylwi eich bod chi’n cael trafferth yn canolbwyntio, cymerwch egwyl a byddwch chi yn dod 'nôl i’r adolygu yn teimlo adnewyddes.

Bwyta’n iach. Ceisiwch wrthsefyll y demtasiwn o gymryd pecynnau o fisgedi a melysion i’r llyfrgell er mwyn eich cadw chi fynd. Yn lle hynny, cymerwch egwyl ar gyfer cinio a bwyta’n iach. Hefyd, yfed dwr yn hytrach na diodydd egni a chaffein.

Cael digon o gwsg. Mae Cysgu yn bwysig yn ystod tymor arholiadau er mwyn sicrhau bod eich ymennydd yn cael ei ail-lenwi, ond mae pryderu nad ydych yn mynd i gael digon o gwsg yn gallu eich cadw’n effro. Dwedwch wrth eich hun, os nad ydych yn cael digon o gwsg, nid dyma yw diwedd y byd gan y gallwch chi gysgu mwy'r nos nesaf a cheisio sefydlu trefn ddyddiol.

Ymarfer Corff. Gall ymarfer corff helpu gydag eich pryderon a nerfau yn ystod cyfnod arholiadau. Byddech chi yn teimlo’n fwy egnïol ac yn cael eich adnewyddu, a bydd hynny’n helpu chi perfformio yn well yn eich astudiaethau. Fodd bynnag yn ystod arholiadau efallai na allwch gymryd llawer o amser allan o astudio. Yn hytrach na rhoi'r gorau i ymarfer corff yn gyfan gwbl, trio cymryd egwyliau bach, rheolaidd er mwyn adnewyddu eich hun a chlirio’ch meddwl ac mae cerdded 15 munud i’r llyfrgell neu o amgylch campws yn ffordd dda o gael rhywfaint o ymarfer corff.

Llusgo traed. Gall llusgo traed ac oedi fod yn gelyn gwaethaf myfyrwyr yn ystod cyfnod arholiadau, ond gallwch chi ei oresgyn. Ceisio ymrwymo eich hun i gwblhau tasgau realistig a hawdd, a gwobrwyo’ch hun pan wneir hyn er mwyn cadw eich hun yn gymhellol.

Peidiwch â cheisio fod yn berffaith. Mae’n wych llwyddo ac anelu am y sêr ond cadwch bethau yn gytbwys, gall boeni na fyddech yn cael 2.1 creu mwy o straen. Os mae’r arholiad yn mynd yn wael, mae yna opsiynau arall a chymorth ar gael.

Cymerwch gamau i oresgyn problemau. Os nad ydych chi yn deall deunydd cwrs, siaradwch ag arweinydd eich modiwl, tiwtor personol neu gyd-fyfyrwyr.

Ydych chi’n poeni neu o dan bwysau am fater anacademaidd, effallai’n ymwneud a cyllid, tai neu faterion prynwyr? Cysylltwch â’r Undeb Myfyrwyr a fydd yn wneud eu gorau i’ch helpu chi lleddfu straen yn ystod amser arholiadau.

Dulliau Adolygu

Nad oes yna ‘ffordd gywir’ i adolygu ar gyfer eich arholiadau ac mae hi’n bwysig cadw’r i’r dulliau sydd yn gweithio i chi. Os yw’ch ffrind yn treulio oriau ac oriau yn y llyfrgell, nad yw’n golygu bod angen i chi hefyd.

Sut i adolygu’r maes llafur

Mae yna lawer o ddulliau gwahanol o adolygu nad ydynt yn gyfyngedig i’r rhai a restrir isod. Mae pobl yn dysgu mewn ffurf wahanol felly os ydych chi’n ffeindio hi’n anodd adolygu, rowch gynnig ar rhai o’r dulliau hyn.

Dulliau Dysgu gweledol
  • Ysgrifennwch ffeithiau allweddol a defnyddiwch fapiau meddwl
  • Crynhoi eich nodiadau ar gardiau bach a’u cymryd o gwmpas gyda chi (sicrhewch rydych yn llungopïo nhw rhag ofn eich bod yn eu colli!)
  • Gwneud diagramau a chofyddiaeth i’ch helpu chi cofio pethau.
Dulliau Dysgu clywedol
  • Gwrandech ar ddarlithoedd ( os yw darlithoedd eich cwrs wedi’i recordio)
  • Darllen yn uchel
  • Recordiwch eich hun yn darllen eich nodiadau adolygu (gallwch chi wneud ymarfer corff wrth wrando ar eich nodiadau)
  • Esboniwch eich nodiadau i rywun arall
Dulliau dysgu cinesthetig
  • Cerddwch o gwmpas wrth ddarllen
  • Tanlinellu neu amlygu pwyntiau allweddol
  • Rhoi pwyntiau allweddol ar gardiau mynegi a’u rhoi mewn trefn.
  • Gwneud model
  • Astudio mewn grwp.
Sut i adolygu techneg arholiad
  • Edrychwch ar lwyth o gyn papurau i weld yr arddull ysgrifennu.
  • Gweithiwch allan pa mor hir yw’r arholiad a sawl marc sydd ar gael ar gyfer pob cwestiwn yn yr arholiad.
  • Gwnewch cyn papurau ac amserwch eich hun.