Beth rydym yn ei wneud
Rydym yn sefydliad democrataidd sy'n annibynnol o'r Brifysgol ac yn cael ein rhedeg gan fyfyrwyr, ar gyfer myfyrwyr. Yn flynyddol, mae tîm o Swyddogion Gweithredol yn cael eu hethol gan gorff y myfyrwyr i gynrychioli ac arwain Undeb y Myfyrwyr. Mae’r swyddogion yn cynrychioli tri rhanbarth (Casnewydd, Caerdydd a Phontypridd), ac yn gweithio gyda'i gilydd â thîm o Swyddogion Rhan Amser ymroddedig, yn ogystal â staff a gwirfoddolwyr i sicrhau eich bod yn cael y gorau o'ch addysg a'ch profiad fel myfyriwr.
O weithgareddau, digwyddiadau a lleoliadau i wirfoddoli a datblygu sgiliau, rydym yn ymdrechu i sicrhau eich bod yn cael y cyfle i gyfoethogi pob agwedd o eich bywyd fel myfyriwr. Rydym yn cefnogi dros 100 o glybiau, timau a chymdeithasau, 700 SVR a Chynrychiolwyr Cwrs, ac yn cynnal dros 150 o ddigwyddiadau yn ein lleoliadau yn flynyddol. Felly, os hoffech chi ddatblygu eich sgiliau, dod yn gynrychiolydd ar eich cwrs, neu gymdeithasu gyda ffrindiau, mae’r cyfan gennym ni. Ac oherwydd ein bod ni ar gyfer myfyrwyr, nid er elw, rydym yn sicrhau bod pob buddsoddiad a wnewch yn eich UM yn cael ei roi yn ôl i'ch gofalai fwyaf.
Fel llais cydnabyddedig y myfyrwyr ym Mhrifysgol De Cymru, rydym yn cefnogi myfyrwyr sydd eisiau ymgyrchu ar y materion sydd yn bwysig i chi a sicrhau bod corff y myfyrwyr – llais cyfunol o dros 28,000 o fyfyrwyr - yn cael ei glywed ar y lefel uchaf. Pwrpas Undeb y Myfyrwyr yw cynrychioli chi, felly os oes unrhyw beth sydd ei angen arnoch, gallwn helpu. Mae pob myfyriwr yn aelod o'r Undeb, yn cynnwys myfyrwyr llawn-amser, rhan-amser, israddedig ac ôl-raddedig, felly os nad ydym yn darparu rhywbeth yr hoffech i ni ei wneud, galwch heibio i siaradwch â ni.