Diolch am eich amynedd wrth inni gweithio ar gyfieithu ein wefan.

FFfitrwydd i sefyll/ Amgylchiadau Esgusodol

Amgylchiadau esgusodol

Os ydych yn profi amgylchiadau a gall effeithio eich gallu i berfformio mewn asesiadau, efallai y gallwch wneud cais am Amgylchiadau Esgusodol.

Polisi ffitrwydd i sefyll

Wrth gyflwyno pob asesiad a/neu eistedd arholiad rydych chi yn cadarnhau eich ffitrwydd i sefyll ac na fyddech chi wedyn yn gallu honni fod amgylchiadau esgusodol wedi effeithio eich perfformiad yn yr asesiad hwnnw. Os ydych chi’n ystyried nad ydych chi’n ‘ffit i eistedd’ rhaid i hon fod am reswm sylweddol a dylech gyfarwyddo efo’r brifysgol ymlaen llaw oni bai nad yw hyn yn bosib (fel gosodir yn y rheoliadau). Felly bydd angen i chi fod yn gyfrifol am benderfynu ymlaen llaw os ydych yn sâl neu yn wynebu amgylchiadau esgusodol sylweddol arall. Os felly, dylech gysylltu â’r brifysgol i ofyn am estyniad i’w gyflwyno neu beidio â chyflwyno/ mynychu. Wrth wneud penderfyniad o’r fath, mae angen i chi ystyried canlyniadau gohirio’ch astudiaethau a bydd eich Canolfan cyngor/ tiwtoriaid yn gallu rhoi arweiniad i chi ar hyn os byddwch ei hangen.

Beth yw amgylchiadau esgusodol?

Diffinnir amgylchiadau esgusodol fel “Amgylchiadau eithriadol sydd tu allan i reolaeth y myfyriwr ac sydd wedi atal, neu bydd yn atal ef/ hi rhag perfformio mewn asesiad ar y lefel a ddisgwylir neu sy’n ofynnol ganddo/ ganddi.”

Os ydych yn cyflwyno cais am amgylchiadau esgusodol:

  • Ceir ffurflenni hawlio o’ch Ardal Cynghori
  • Rhaid i chi gyflwyno’ch hawliadau cyn gynted ag bydd yr amgylchiadau yn codi.
  • Dylai pob amgylchiad cael ei chefnogi gan dystiolaeth o ffynhonnell annibynnol.
  • Eich cyfrifoldeb chi yw darparu tystiolaeth at y diben hwn.

Gall hawliad llwyddiannus golygu estyniad terfyn amser, neu gynnig cyfle i chi ail gymryd rhan o’r asesiad. Serch hynny, dylech nodi na allwch chi ofyn i’r gwaith gwreiddiol cael ei ailraddio. Caiff yr opsiynau sydd ar gael i chi cael eu hesbonio pan fyddech yn trafod eich hawliadau efo eich Ardal cynghori.

Pam dylwn i wneud cais?

Os ydych chi’n teimlo fod amgylchiadau tu fas i'ch rheolaeth wedi effeithio ar effeithiolrwydd eich astudiaethau dylech gyflwyno cais. Bydd eich hawliad yn cael ei thrin yn breifat ac yn gyfrinachol. Ni fyddwn byth yn datgelu gwybodaeth heb eich caniatâd ymlaen llaw ar y cyd â’n cod cyfrinachol.

Sut ydw i’n ymgeisio?

Mae proses gwneud hawliad yn syml. Mae ffurflenni amgylchiadau esgusodol ar gael o’ch Ardal Cynghori lle gallwch hefyd cael cyngor ac arweiniad ar baratoi eich hawliad a’r dystiolaeth a fydd ofyn i chi eu darparu i gefnogi eich hawliad. Noder na dderbynnir ceisiadau heb dystiolaeth annibynnol sy’n cwmpasu’r dyddiadau y gwneir cais amdano. Bydd yr Ardal Cynghori hefyd yn gallu cynghori ar unrhyw fecanweithiau cymorth arall sydd ar gael i chi.

Rhaid i’ch cais cael ei gyflwyno cyn gynted a bydd yr amgylchiadau yn codi a chyn i’r asesiad gael ei gynnal. OS yw eich amgylchiadau yn wneud hyn yn amhosib bydd yr Ardal Cynghori yn eich cynghori yn unol i hynny.

Rheoliadau’r Brifysgol am Amgylchiadau Esgusodol

Ymdrinnir ag Amgylchiadau Esgusodol yn adran A.2.6.7 o’r Rheoliadau ar Gyfer Cyrsiau a Ddysgir. Mae’r rheoliadau a’r gweithdrefnau i’w gweld yn y ddogfen Rheoliadau Amgylchiadau Esgusodol. Dylech ymgyfarwyddo â’r adrannau hyn i ddeall sut y caiff eich hawliad ei brosesu.

Tystysgrifau Meddygol

Ar gyfer myfyrwyr sy’n gofyn am dystysgrif feddygol gan y Gwasanaeth Iechyd Prifysgol, Meddygfa Ashgrove neu Ganolfan Iechyd Llanedern nodwch mai dim ond os yw meddyg/ nyrs wedi eich gweld o’r blaen y mae'r meddygon/ staff nyrsio yn gallu rhoi cadarnhad annibynnol i gefnogi achos ac mae cofnod ysgrifenedig o hyn yn eich cofnod meddygol. Bydd y cadarnhad annibynnol hwn yn ddatganiad o ffaith, yn deillio o’r cofnodion meddygol. Fel arfer, dim ond y cyfnod o amser y cawsoch eich gweld ar gyfer y cyflwr meddygol penodol hwnnw y bydd yn ei gynnwys. Eich cyfrifoldeb chi yw esbonio sut mae’r cyflwr meddygol yn effeithio eich gallu i astudio.

Er bod y Swyddog Meddygol, y meddygion a’r staff nyrsio yn sylweddoli bod amgylchiadau eraill yn aml pan effeithir ar eich gallu i astudio, fel profedigaeth, chwalu perthynas neu ddigwyddiadau bywyd eraill sy’n achosi straen, ni allant roi tystysgrif feddygol o dan yr amgylchiadau hyn, oni bai bod yr amgylchiadau hyn wedi arwain at gyflwr meddygol adnabyddus. Mae mwy o wybodaeth ar gael gan y Gwasanaeth Iechyd.

Os penderfynwch ymgynghori ag asiantaethau allanol i gael tystiolaeth feddygol, mae’r Brifysgol wedi paratoi dogfen ganllaw gall ei ymarferydd meddygol ei llenwi yn lee llythr ategol. Darperir hwn gan Ymgynghorydd Myfyrwyr, ynghyd a’r cais.

Y Gwasanaeth Lles

Os yw’r Gwasanaeth Cynghori a/neu Iechyd Meddwl yn gweithio’n rheolaidd gyda chi yn ystod cyfnod o anhawster yr ydych yn hawlio amgylchiadau esgusodol a rhoi cyfer, yna ar eich cais a’ch caniatâd, gallant roi llythyr i chi sy’n cadarnhau eich presenoldeb.

Ni fydd y Gwasanaeth Cynghori a/neu Iechyd Meddwl mewn sefyllfa i ddarparu llythyron ar gyfer myfyrwyr nad ydynt wedi bod yn defnyddio'r gwasanaeth yn ystod yr amser maent yn hawlio amgylchiadau esgusodol.

Cynghorir myfyrwyr sydd â chyflyrau iechyd meddwl parhaus y rhoddwyd Cynllun Cymorth Unigol ar waith iddynt i nodi'r canllawiau isod o dan y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia.

Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia

Os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd sy’n effeithio eich gallu i astudio , dylech chi gysylltu â’r Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia (DDS) cyn gynted â phosib i drafod cymorth priodol a’r posibilrwydd cyllid ychwanegol ar ffurf y Lwfans Myfyrwyr Anabl. Cyfrifoldeb chi yw hysbysebu’r Brifysgol a cheisio cymorth ar gyfer anabledd neu gyflwr iechyd cyn gynted â phosib.

Gellir gwneud cais am amgylchiadau esgusodol dim ond mewn achosion lle mae yna ddirywiad sydyn neu annisgwyl o anabledd neu gyflwr iechyd sydd wedi effeithio eich gallu i astudio.

Pan fyddwch chi yn cwblhau ffurflen cyfadran ar gyfer amgylchiadau esgusodol gofynnir i chi a ydych chi wedi cofrestru gyda’r DDS ac os yw’r cais yn ymwneud ag anabledd presennol. Gofynnir I chi rhoi caniatâd i’r wybodaeth am eich gofynion cyngor gael ei rhannu rhwng y DDS a’r gyfadran.

Gallwch chi ofyn i Gynghorydd o’r DDS ddarparu tystiolaeth i gefnogi cais am amgylchiadau esgusodol os ydych chi wedi cofrestru efo’r gwasanaeth.

Mwy o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth a chyngor ar brosesu cais amgylchiadau esgusodol, cysylltwch â’ch Ardal Cynghori.