Diolch am eich amynedd wrth inni gweithio ar gyfieithu ein wefan.

Cytundebau tenantiaethau preifat

Cytundebau tenantiaethau preifat


Cyfreithiol-rwym. Gwnewch yn siwr rydych yn darllen y cytundeb cyn i chi llofnodi. Os nad ydych yn hapus neu yn ansicr ynghylch rhai rhannu ohono, peidiwch ag arwyddo, dewch ag ef i’r Undeb I gael ei wirio yn gyntaf. Peidiwch â chael eich gorfodi i arwyddo cytundeb oherwydd eich bod yn meddwl gallwch chi golli’r ty. Nid oes cyfnod ailfeddwl, felly os ydych chi’n dod o hyd i dy well i lawr y ffordd, ni fyddwch yn gallu dod allan o’r cytundeb rydych wedi arwyddo yn barod.

Tenantiaid ar y cyd. Os ydych yn cytuno i fynd â thy yr ydych wedi gweld, a’ch bod chi a’ch cydletywr yn llofnodi'r un cytundeb ar yr un pryd, byddwch yn gyd-dentantiaid, ac felly rydych chi’n atebol ar y cyd am unrhyw ôl-ddyledion rhent, biliau cyfleusterau a difrod i’r eiddo. Os bydd un neu fwy o denantiaid yn symud allan, gall y landlord neu’r asiant fynd ar ôl y tenantiaid sy’n weddill am unrhyw ôl-ddyledion rhent neu filiau. Gall hefyd fynd ar ôl y person sydd wedi gadael.

Gwarantwyr. Mae llawer o asiantau a rhai landlords angen ffurflen gwarantwr wedi’i llofnodi gan eich rhieni. Ffurflen sy’n gwarantu tâl rhent ac unrhyw filiau arall rydych yn atebol am o dan y cytundeb yw hyn. Os yw hi’n denantiaid ar y cyd, sicrhewch fod y ffurflen yn cael ei geirio yn gywir neu gallai eich rhieni feindio eu hun yn atebol am arian sy’n ddyledus gan denantiaid arall.

Addewidion. Dylai unrhyw addewidion a wneir wrth edrych ar y ty, fel cegin newydd, gwelyau newydd, ail-addurno, ayyb, cael ei ysgrifennu yn y cytundeb gyda therfyn amser cytunedig ar gyfer cwblhau. Sicrhewch rydych yn ystyried a fyddwch dal yn hapus i fyw yn y ty os nad yw’r gwelliannau yma yn digwydd. Os mai ‘na’ yw’r ateb, cerddwch i ffwrdd. ‘Yr hyn a welwch yw’r hyn a gewch’ yw ymadrodd da i gadw mewn cof.

Telerau annheg. Mae Rheoliadau Telerau Annheg mewn Contractau Defnyddwyr 1999 yn nodi na ddylech gael telerau annheg yn eich cytundeb . Os ydych yn cael unrhyw gwestiynau ewch i wefan y Swyddfa Masnach Deg.

Landlordiaid preswyl. Gall byw gyda landlord preswyl, fel byw gyda ffrind y mae ei rhieni wedi prynu'r ty, yn gallu bod yn gymhleth iawn. Cymerwch gyngor o’r undeb cyn llofnodi cytundeb. Gallwch hefyd edrych ar wefan Cymunedau a Llywodraeth leol.

Talu Rhent ymlaen llaw. Mae llawer o asiantau a landlordiaid yn ofyn i fyfyrwyr talu rhent y flwyddyn mewn ffurf 12 sieciau ôl-ddyddiedig. Dylech osgoi hwn ar bob cyfrif. Gellir cyflwyno sieciau ôl-ddyddiedig cyn y dyddiad dyledus, yn anfwriadol, ac os nad oes gennych ddigon o arian yn eich cyfrif yn a bydd y banc yn codi tal arnoch am siec sydd wedi ‘bownsio’. Gofynnwch i’r landlord os gellir sefydlu archeb sefydlog yn lle.