Ble i Edrych?
Gall ddod o hyd i lety addas wneud wahaniaeth sylweddol i’ch profiad myfyriwr yn PDC. Ar gyfer rhan fwyaf o israddedigion flwyddyn gyntaf a rhai myfyrwyr rhyngwladol, neuaddau preswyl yw’r opsiwn a ffafrir, tra gall myfyrwyr eraill teimlo fod byw mewn llety preifat yn fwy addas iddyn nhw.
Mae cynghorydd ar gael trwy gydol y flwyddyn yn yr undeb myfyrwyr i gynnig cymorth a chyngor. Ni ellir cynnig llety i chi ( gan eithrio Student Living) ond byddwn yn eich helpu ar hyd y ffordd.
Preswylfeydd y Brifysgol
Mae PDC yn cynnig amrywiaeth o breswylfeydd mewn tai myfyrwyr a neuaddau preswyl. Rhoddir blaenoriaeth i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf, a myfyrwyr rhyngwladol; ond mae ystafelloedd fel arfer ar gael i fyfyrwyr arall.
Neuaddau Preifat
Mae yna nifer o neuaddau myfyrwyr preifat yng Nghaerdydd/ Casnewydd / Pontypridd. Y prif ddarparwyr yw Liberty Living a CLV.
Byddwch gennych chi ystafell ymolchi a bydd biliau yn cael ei chynnwys yn y rhent.
Llety rhentu preifat
Gellir dod o hyd i hyn trwy asiant gosod neu yn uniongyrchol efo landlord. Ar gyfer ystafell mewn ty a rennir gallwch ddisgwyl talu rhwng £250 a £400 y mis galendr, gan eithrio biliau. Rydych chi’n talu am yr hyn a gewch, felly am £300 dyle’r lle fod yn eithaf braf. Mae gennym asiantau gosod tai yn ein hadeilad ar gampws Trefforest, felly dewch draw i bori rhai o’r tai. Yn well byth nad yw Student living yn codi ffioedd asiantaeth a gall fod yn gostus.
Landlordiaid
Y lle gorau i ddod o hyd i eiddo i’w rentu o landlord preifat yw trwy restrau Sector Preifat y Brifysgol.
Preswylfeydd yn cefnogi Achredu Landlordiaid Cymru. Mae landlordiaid achrededig yn fwy tebygol o fabwysiadau arfer da a darparu gwasanaethau da i chi. Pan fyddwch yn chwilio am lety gallwch wirio a yw asiant wedi’i achredu.
Asiantau gosod tai
Rydym yn argymell Student Living ar ail lawr yr Undeb Myfyrwyr, campws Trefforest. Maen nhw yn cynnig llety ansawdd uchel ac yn un o’r ychydig asiantaethau i beidio codi ffioedd asiantaeth ar fyfyrwyr.
Mae yna lawer o asiantau gosod tai eraill o gwmpas. Ni ellir argymell unrhyw rai yn benodol ond mae hi’n syniad da defnyddio asiantaeth sydd wedi’i achredu.
Fel arfer bydd asiantaethau yn codi ffi a fydd at £100. Dim ond os ydych wedi cytuno ar dy i rentu y dylid talu'r ffi hon; mae’n debyg na fyddwch yn ei gael yn ôl os ydych chi’n newid eich meddwl. Ni ddylid codi ffi am ddangos ty i chi.
Angen rhywle am lai na chwe mis?
Mae rhan fwyaf o denantiaethau rhentu prifat am chwech mis neu mwy. Os ydych yn edrych I araos am amser llai, effallai bydd eich chwiliad ychydig yn galetach.
Tai wedi’i rheoli
Os ydych yn mynd i ddefnyddio asiantaeth gosod tai i ffeindio eich dy, gwnewch yn siwr rydych yn gwybod os ydynt nhw yn mynd i reoli’r ty ar gyfer y landlord. Os mai ‘Ie’ yw’r ateb, byddwch wastad yn delio yn uniongyrchol gyda’r asiantaeth os oes gennych unrhyw broblemau neu anghenion trwsio.
Llety
Efallai byddwch chi am letya mewn ty rhywun. Gall hyn fod yn drefniad mwy hyblyg ac opsiwn da os ydych chi ddim ond yn edrych am lety am 6 mis neu lai. Mae’r gwefannau isod yn ddefnyddiol: