Cymorth Academaidd
Yn ystod eich amser yn y Brifysgol, efallai byddech chi angen cyngor academaidd. Mae’r Undeb Myfyrwyr yn cynnal gwasanaeth cynghori annibynnol a cyfrinachol, sydd yn gallu arwain myfyrwyr trwy reoliadau academaidd y Brifysgol. Gall swyddogion llawn-amser cefnogi a chynrychioli myfyrwyr sydd yn wynebu addasrwydd i ymarfer, honiadau llên-ladrad (ymarfer annheg) neu ddisgyblaeth o ganlyniad i gamymddwyn yn wrandawiad Prifysgol.
Mae’r Brifysgol yn disgwyl i chi fod yn gyfarwydd efo llawlyfr eich cwrs a’r rheoliadau academaidd. Gall y ddau ymddangos yn gymhleth, ond mae’r swyddogion llawn-amser yn hapus i eistedd lawr a helpu chi i ddeall nhw.
Sylwer fod y tudalennau we yn darparu arweiniad cyffredinol ar gymorth academaidd a pholisi prifysgol yn unig. Na thyle hi cael ei ystyried neu ddibynnu ar fel datganiad cyflawn neu awdurdodol o bolisi neu weithdrefn y Brifysgol.
Ymddygiad
Wrth iddoch chi astudio yn PDC mae yna ddisgwyl i chi ymddwyn mewn modd penodol. Efallai byddech chi angen cymorth wrth ymateb i achos disgyblaeth, pryderai ynglyn â chyfaddasrwydd chi i fod ar gwrs penodol, neu gallwch chi fod yn wynebu honiadau arfer annheg. Gall Swyddogion llawn-amser yr Undeb Myfyrwyr egluro'r prosesau a chynghori chi ar sut i weithredu.
Os ydych chi angen gadael PDC, newid eich cwrs neu os nad ydych yn gallu mynychu eich cwrs, gall Swyddogion Addysg & Lles helpu.
Asesiadau
Rydym ni yn gwybod fod arholiadau a gwaith cwrs yn bryderus. Os ydych chi yn wynebu amgylchiadau esgusodol, gallwn ni egluro sut i gofnodi nhw o fewn terfyn amser eich cyfadran.
Os ydych chi yn anhapus efo eich cwrs neu wasanaeth a darparwyd gan y brifysgol, gallwn ni egluro proses cwynion y Brifysgol.
Gall myfyrwyr sydd wedi cwblhau gweithdrefnau mewnol y Brifysgol argeisio cyngor ynglyn â chwyno i Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol.