Diolch am eich amynedd wrth inni gweithio ar gyfieithu ein wefan.

Sicrwydd Diogelwch

Sicrwydd Diogelwch

Tystysgrif Diogelwch nwy

Mae’n ofyniad cyfreithiol i landlordiaid wirio pob offer nwy mewn eiddo rhentu yn flynyddol, a rhoi copi o’r dystysgrif diogelwch nwy i’r tenantiaid. Mae hyn oherwydd gall carbon monocsid, na ellir gweld, blasu neu arogli, casglu yn yr eiddo o offer anniogel, a gall hyn lladd. Os ydych chi wedi gofyn eich landlord am gopi ac na ydych wedi derbyn, gallwch chi roi gwybod am eich landlord i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Gofal.

Diogelwch Tryanol

Mae gan landlordiaid cyfrifoldeb i sicrhau fod unrhyw offer trydanol a gyflenwir gyda’r llety yn ddiogel. Mae hyn yn cynnwys gwresogyddion, poptai, tegellau, ac unrhyw nwyddau trydanol arall. Os ydych yn pryderu nad yw offer trydanol yn ddiogel a’ch landlord yn anfodlon ei wirio, gallwch gysylltu â Chanolfan Cynghori Defnyddwyr Safonau Masnach Caerdydd ar 02920 87 2059 neu e-bostiwch.

Mae dyletswydd ar adrannau safonau masnach I orfodi deddfwriaeth sy’n ymwneud â ddiogelwch offer trydanol a ddarparir gyda llety.

Dodrefn a Gyflenwyd gan y Landlord

Rhaid i unrhyw ddodrefn a ddarperir gan y landlord yn wrthdan. Dylai pob dodrefn newydd ac ail-law a werthir ar ôl 1 Medi, 1990 fodloni’r rheoliadau diogelwch tan, a dylai fod â label fel prawf. Os nad oes gan y dodrefn label sy’n dweud ei fod yn bodloni’r rheoliadau, mae’n debygol na fydd yr eitem yn cwrdd â’r rheoliadau, a ddylech ofyn i’r landlord amnewid yr eitem.

Nid oes unrhyw safonau gofynnol ar gyfer yr hyn a ddylid ei ddarparu mewn llety rhent wedi’i dodrefnu, ond dylech gael:

  • Bwrdd a chadeiriau
  • Soffas a/ neu gadair freichiau
  • Gwelyau
  • Storio am ddillad yn yr ystafell wely
  • Systemau neu offer gwresogi
  • Lleni a gorchuddion llawr
  • Ffwrn
  • Oergell
Mae eitemau eraill, fel desgiau, yn aml yn cael ei darparu, ond os chytunwyd ar ôl llofnodi’r contract, gall y landlord wrthod darparu'r eitem.

Diogelwch tân

Dylai dyluniad, adeiladwaith a chyflwr unrhyw eiddo preswyl lleihau’r siawns o esgeulustod yn achosi tan, trwy gyfyngu lledaeniad y tan a darparu ffordd ddiogel o ddianc. Dyle pob eiddo am rent cael larymau tan, synhwyrydd mwg, diffoddwr tan a blanced tan. Mae’n ofynnol i eiddo mwy cydymffurfio â safonau ychwanegol. Gweler hefyd www.firekills.direct.gov.uk am gyngor ar atal tanau.

Diogelwch

Yn ddelfrydol, dylai ty gael logiau mortais a drysau blaen a chefn, ond nid oes rhaid i landlordiaid ei ddarparu. Mae cloeon ffenestri ar y llawer gwaelod a ffenestri hygyrch eraill yn atal lladron. Sicrhewch fod ffenestri wedi’u gau a drysau ar glo pan rydych yn mynd mas, a pheidiwch ag gadael pethau gwerthfawr megis gliniaduron mewn golwg. Mae rhan fwyaf o fyrgleriaethau yn digwydd mewn eiddo lle gellir cael mynediad hawdd trwy ffenestri agored neu ddrysau heb ei glo.