Tips Tai preifat
Does dim brys.
Mae yna digon o dai myfyrwyr i rentu - mwy na ddigon ar gyfer nifer o fyfyrwyr PDC. Mae’n fwy pwysig i fod yn siwr gyda phwy rydych chi eisiau byw efo ac i aros am y ty perffaith.
Edrychwch ar dai gyda gwahanol asiantaethau.
I weld am beth rydych chi’n ei gael am eich arian! Cofiwch fod yr asiant yn cael ei chyflogi gan y landlord ac yn cael ei thalu pan fydd yn dod o hyd i denantiaid. Cadwch lygaid am ymddygiad proffesiynol gan yr asiant a pheidiwch â theimlo pwysau i wneud penderfyniad, drosglwyddo arian neu gofrestru. Os ydych yn edrych fel rhan o grwp, gwnewch benderfyniadau gyda’ch gilydd. Dylai pawb weld y ty, cytuno â lleoliad a chyfrannu at ‘restr dymuniadau’ y ty.
Meddyliwch yn y tymor hir.
Os ydych yn rhuthro i arwyddo am dy, maen rhai ichi fod yn gyfforddus yn byw gyda’ch cydletywr tan yr Haf canlynol. Sicrhewch fod pawb yn y grwp yn cael yr un disgwyliadau byw.
Faint bydd rhaid i chi dalu?
Pan fyddwch yn dod o hyd i dy i rentu, fydd angen i chi dalu ffioedd asiantaeth, blaendal a / neu rent mis ymlaen llaw. Pan fydd yr arian yn newid llaw, sicrhewch rydych yn cael derbynneb.
A yw’ch blaendal wedi’u ddiogelu?
Mae rhaid i’ch landlord neu asiant diogelu eich blaendal fewn 30 diwrnod ar ôl i chi talu yn unol â’r gyfraith. Os nad ydych wedi derbyn gwybodaeth o sut mae eich blaendal wedi cael ei diogelu o fewn 30 diwrnod, ceisiwch gyngor gan yr Undeb Myfyrwyr.
Byddwch yn wyliadwrus o addewidion!
Os mae’r landlord neu’r asiant yn wneud addewidion am ailaddurno, dodrefn newydd neu unrhyw beth arall, sicrhewch fod gennych chi rhain yn ysgrifenedig a’i fod wedi ysgrifennu yn y cytundeb. Os na chedwir y dymuniadau efallai y bydd rhaid i chi aros yn y ty.
Mae dogfennau tenantiaethau yn ddogfennau cyfreithiol.
Maent fel arfer am gyfnod penodol ac ni allant ddod i ben yn gynnar. Os mae grwp ohonoch yn llofnodi cytundeb, chi gyd yn gyfrifol am y rhent a chyflwr yr eiddo.
Mae cyngor annibynnol, cyfrinachol am ddim ar gael yn eich undeb myfyrwyr, dewch i weld ni!